Annwyl Ms Chapman AC
Cyfeiriaf at eich neges e-bost a anfonwyd ar y 26/03/2014 a oedd yn cynnwys cais am wybodaeth fel y nodir mewn ffont italig isod. Yn dilyn ystyried eich cais, yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, hoffwn ymateb i bob pwynt fel a ganlyn:
-a yw eich awdurdod lleol wedi cynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb wrth ystyried y posibilrwydd o gau llyfrgelloedd yn eich ardal? Os felly, gofynnwn ichi ddarparu manylion;
Nid yw’r Awdurdod wedi cau unrhyw lyfrgelloedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fodd bynnag; yn ddiweddar fe ymatebodd yr Awdurdod i CyMAL fel rhan o adolygiad y Gweinidog o lyfrgelloedd ac fe rannodd y canlynol mewn perthynas ag ymgynghoriad ac Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb:
Isod ceir dolen i’r ymgynghoriad ynghylch adleoli Llyfrgell Pen-y-bont. Nid oedd yn gysylltiedig â chynllun arbedion ond efallai y bydd yn rhoi ymdeimlad â’r materion, pryderon a chyfleoedd a godwyd gan ddefnyddwyr a rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr.
Bu’r ymgynghoriad o gymorth i’r Awdurdod ddatblygu Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac fe ddylanwadodd hefyd ar ddyluniad ffisegol a dyluniad gwasanaethau’r llyfrgell newydd. Yr un mor arwyddocaol â’r hyn a ddywedwyd gan bobl oedd y diffyg ymateb gwirioneddol ar y pwnc o ystyried y byddai’r llyfrgell yn gwasanaethau poblogaeth o ryw 40,000. Fe amlygodd hyn yr angen i wneud y gwasanaeth llyfrgell yn fwy gweladwy ac annog cenedlaethau iau a theuluoedd i ddechrau perthynas â’u llyfrgell.
http://www.bridgend.gov.uk/web/groups/public/documents/report/104357.doc
http://www.bridgend.gov.uk/web/groups/public/documents/report/104359.pdf
Mae’r adroddiad Craffu a amlygir isod yn cynnwys, fel Atodiad, yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas ag adleoli Llyfrgell Pen-y-bont ynghyd â diweddariad ar y camau lliniaru a gymerwyd.
http://www.bridgend.gov.uk/web/groups/public/documents/report/111045.doc
- a yw eich awdurdod lleol wedi ymgynghori â chynrychiolwyr lleol ar ran defnyddwyr bregus wrth ystyried y posibilrwydd o gau llyfrgelloedd yn eich ardal? Os felly, gofynnwn ichi ddarparu manylion; a
Nid yw’r Awdurdod wedi cau unrhyw lyfrgelloedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf; fodd bynnag gweler yr ymateb i gwestiwn 1 mewn perthynas ag adleoli Llyfrgell Pen-y-bont.
- pha gysylltiadau sydd rhwng y gwasanaethau addysg a’r llyfrgelloedd cyhoeddus yn eich awdurdod lleol?
Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod yn llawn y rôl sydd ganddo o ran yr angen i wella lefelau llythrennedd ymhlith pobl ifanc ac mae’n ailgyfeirio’i adnoddau datblygu tuag at wneud hyn. Caiff hyn ei nodi’n eglur yn y Cynllun Corfforaethol 2013-17 ac o fewn Cynllun Busnes y Gyfarwyddiaeth ar gyfer 2014-15. Mae’r Awdurdod wedi datblygu Dangosyddion Perfformiad penodol i fonitro perfformiad y gwasanaeth llyfrgelloedd yn y maes gwaith yma e.e. y % o’r boblogaeth dan 5 sy’n aelodau o lyfrgell.
Mae cysylltiadau’r gwasanaeth llyfrgelloedd ag addysg yn cael eu cydlynu’n uniongyrchol trwy ysgolion unigol yn bennaf. Mae rheolwyr canghennau unigol ac/neu Lyfrgellydd yr Adran Plant yn rhagweithiol a byddant yn gweithio gydag ysgolion ar brosiectau a digwyddiadau megis Her Darllen yr Haf, amseroedd stori, caffis storïau mewn ysgolion, defnyddio e-gylchgronau, y rhaglen ‘Darllen er mwyn Hwyl’ a gweithgareddau eraill tebyg.
Mae cydweithwyr ar draws y gwasanaethau hamdden ar hyn o bryd yn gweithio ar arlwy ar y cyd y gellir ei chyflwyno i’r holl ysgolion, yn y sector cynradd ac uwchradd, a fydd yn nodi’r gwasanaethau, eu manteision a sut y gall ysgolion chwarae rhan. Bydd lansiad diweddar cam peilot y cynllun ‘Pob Plentyn yn Aelod o Lyfrgell’ – a bwrw y bydd yn cael ei gyflwyno wedyn ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru – yn golygu cydweithio agosach ag adrannau addysg.
Os ydych yn anfodlon ar y modd yr ymdriniwyd â’r cais, dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae gennych hawl i ofyn am adolygiad o ymateb y Cyngor i’ch cais am wybodaeth.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr